Mae cynlluniau i droi hen ysgol ym Methesda yng Ngwynedd yn ganolfan fenter newydd wedi cael eu cymeradwyo gan swyddogion.

Ar hyn o bryd, mae safle Canolfan Cefnfaes yn cael ei ddefnyddio fel cyfleuster cymunedol, ond mae’r cynlluniau diweddaraf am ei droi’n ganolfan fenter sy’n cynnwys swyddfeydd, gweithdai, a mannau cyfarfod.

Hefyd, mae llety newydd yn rhan o’r cynlluniau, sy’n cynnwys saith ystafell gwelyau bync a chegin gymunedol ar wahân.

Fe wnaeth Partneriaeth Ogwen, sy’n gyfrifol am y cais, dderbyn cyfrifoldeb fis Mawrth 2021 i reoli’r safle ar ran Cyngor Gwynedd.

Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai’r prosiect yn derbyn £225,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru.

Mae’n debyg bod y ganolfan bresennol wedi bod yn segur ers ton gyntaf pandemig Covid-19 ym Mawrth 2020.

Er hynny, mae grwpiau lleol wedi mynegi diddordeb brwd yn y cynlluniau newydd.

“Cymuned, economi a chynaliadwyedd”

Fe soniodd Meleri Davies, Prif Swyddog y Prosiect, ychydig am y cynllun yn ôl ym mis Gorffennaf eleni.

“Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yr economi a chynaliadwyedd, a bydd Canolfan Cefnfaes yn cael ei datblygu gyda’r tair thema hyn mewn cof,” meddai.

“Bydd y llety bync a’r unedau busnes yn dod â budd economaidd i’r ardal a bydd gan y ganolfan hefyd ystafell gymunedol amlbwrpas.

“Rydyn ni eisoes wedi cynllunio gofod i wneuthurwyr a chaffi trwsio ac fe fyddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar opsiynau ynni cynaliadwy ar gyfer yr adeilad gyda dau bwynt gwefru trydan i’w gosod cyn bo hir.

“Mae cyllid Cyfleusterau Cymunedol yn garreg filltir bwysig i’r prosiect wrth i ni godi’r arian cyfalaf i adnewyddu’r adnodd cymunedol pwysig hwn.”