Mae prosiectau cymunedol ar draws Cymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ymhellach.

Bydd cyfanswm o 13 prosiect yn derbyn cyfran o £1.5m o Raglen Cyfleusterau Cymunedol y llywodraeth, ac fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella safon adeiladau a darparu cyfleoedd i bobol leol o ddydd i ddydd.

Mae pob cais am arian o’r Rhaglen yn cael ei sgorio allan o 100, gan ddefnyddio meini prawf fel budd y prosiect i’r gymuned a chynaliadwyedd y prosiect.

Mae wyth adeilad yn derbyn hyd at £250,000, tra bod pum adeilad yn ychwanegol yn derbyn cyfraniad llai o hyd at £25,000.

‘Ailadeiladu’ cymunedau

Cyfeiriodd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, at yr effaith fydd yr arian yn ei gael ar gymunedau.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae ein cymunedau a’r cyfleusterau gwych ynddynt yn ganolfannau ar gyfer dwyn pobl ynghyd er mwyn ailadeiladu Cymru yn gryfach ac yn deg i bawb,” meddai.

“Er gwaethaf yr heriau eithriadol rydyn ni wedi’u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf, mae ysbryd cymunedol a gwydnwch pobl Cymru wedi dod i’r amlwg.

“Bydd y cyllid Cyfleusterau Cymunedol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn parhau i helpu i ddod â’n grwpiau lleol at ei gilydd drwy gefnogi prosiectau lleol.”

Yr adeiladau sy’n derbyn hyd at £250,000:

  • The Include Hub, Abertawe
  • Green Squirrel CIC, Caerdydd
  • Canolfan Focsio a Gweithgareddau Cymunedol Bulldogs, Castell-nedd Port Talbot
  • Partneriaeth Ogwen, Gwynedd
  • Tabernacl Bethesda, Gwynedd
  • Neuadd Bentref Glangrwyne, Powys
  • Glandŵr Cymru, Sir Fynwy
  • Clwb Chwaraeon Ponthir a’r Cylch, Torfaen

‘Carreg filltir bwysig’

Mae Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, wedi sôn am eu prosiect nhw, sydd am weld hen ysgol yn cael ei drawsnewid i ganolfan sy’n rhagori mewn arloesedd a chynaliadwyedd.

“Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yr economi a chynaliadwyedd, a bydd Canolfan Cefnfaes yn cael ei datblygu gyda’r tair thema hyn mewn cof,” meddai.

“Bydd y llety bync a’r unedau busnes yn dod â budd economaidd i’r ardal a bydd gan y ganolfan hefyd ystafell gymunedol amlbwrpas.

“Rydyn ni eisoes wedi cynllunio gofod i wneuthurwyr a chaffi trwsio ac fe fyddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar opsiynau ynni cynaliadwy ar gyfer yr adeilad gyda dau bwynt gwefru trydan i’w gosod cyn bo hir.

“Mae cyllid Cyfleusterau Cymunedol yn garreg filltir bwysig i’r prosiect wrth i ni godi’r arian cyfalaf i adnewyddu’r adnodd cymunedol pwysig hwn.”

Yr adeiladau sy’n derbyn hyd at £25,000:

  • Cyfeillion Talycopa, Abertawe
  • Llyfrgell Gymunedol Gwenfô, Bro Morgannwg
  • Ymddiriedolaeth Anne Matthews, Powys
  • Capel Stryd y Bont Hir, Powys
  • Clwb Rygbi Cil-y-coed, Sir Fynwy