Fydd dim beiciau trydan cyffredin ar gael yn nhref Aberystwyth fel rhan o gynllun newydd sy’n cael ei redeg gan elusen Sustrans, ac mae cynghorydd sir wedi mynegi ei “siom” wrth siarad â golwg360.
Mae’r cynllun e-feiciau wedi cael ei lansio yn nhrefi Abertawe, Aberystwyth, Y Barri, Y Drenewydd a’r Rhyl i annog y cyhoedd i seiclo yn hytrach na defnyddio’u ceir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1m yn y fenter, a bydd modd llogi’r beiciau am gyfnod hir ac am bris rhesymol.
Ond mae’n debyg nad beiciau trydan cyffredin fydd ar gael yn Aberystwyth, gan fod y rheiny’n cael eu blaenoriaethu i gymunedau tlotach, yn ôl Sustrans.
Yn hytrach, dim ond beiciau ‘e-cargo’ fydd yn y dref, sef beiciau trydan sy’n gallu cario nwyddau.
Mae disgwyl y bydd y beiciau hyn yn cael eu defnyddio’n bennaf gan gwmnïau a mentrau lleol, yn enwedig wrth ddanfon nwyddau o le i le.
“Fforddiadwy a chynaliadwy”
Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, yn credu bod y beiciau trydan yn gyfle i ailfeddwl ein dulliau teithio presennol.
“Rydym am i gerdded a beicio ddod yn ddewis arferol ar gyfer teithiau byrrach gan fod teithio llesol nid yn unig yn well i’n hamgylchedd, ond hefyd i’n hiechyd a’n heconomi,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd hyn yn golygu newid diwylliannol enfawr a dyna pam rydyn ni’n buddsoddi mewn cynlluniau fel y cynllun peilot beiciau trydan i helpu pobol sydd erioed wedi beicio o’r blaen i newid eu dulliau teithio mewn ffordd fforddiadwy a chynaliadwy.”
Ond er bod Aberystwyth yn cael ei nodi fel un o’r ‘canolfannau’ e-feiciau newydd, fyddan nhw ddim yn gweld yr un gwasanaethau â’r trefi eraill.
Wrth gwrs, bydd modd llogi’r beiciau ‘e-cargo’ fel y rhai cyffredin, ond mae disgwyl iddyn nhw fod yn dipyn mwy ac yn drymach.
Ar y llaw arall, mae’r gallu i gludo nwyddau yn ei gwneud hi’n fwy ymarferol i deithio o le i le.
‘Rhaid derbyn y cynllun fel y mae’
Mae Alun Williams o Gyngor Ceredigion yn credu y byddai’n well cael beiciau trydan cyffredin, ond mae’n obeithiol y bydd y rheiny’n gallu cael eu cyflwyno os yw’r cynllun presennol yn llwyddiannus.
“Mae ychydig bach yn siomedig,” meddai wrth golwg360.
“Ond mae’n rhaid derbyn y cynllun fel y mae, a dw i’n falch iawn bod menter fel hyn yn dod i’r dref.
“Rwy’n gobeithio bydd y cynllun yn cael ei ehangu yn y dyfodol os yw’n llwyddiant.
“Mae’r beiciau’n bwysig i fusnesau, ond hefyd i drigolion cyffredin.
“Rydw i eisiau i gymaint o bobl â phosib i gael eu dylanwadu [gan y cynllun].”
“E-feiciau yw’r dyfodol”
Roedd taith seiclo Tour Prydain yn mynd drwy ganol y dref ddoe (dydd Mercher, Medi 8), felly byddai llawer o bobol leol yn siŵr o fod wedi cael eu dylanwadu i neidio ar gefn beic.
“Gyda’r holl lwybrau beics sydd o gwmpas y dref, a gyda phoblogrwydd cynyddol seiclo ymhob man, dw i’n credu bod yna sgôp enfawr i ehangu faint o seiclo sy’n digwydd yn Aberystwyth,” meddai Alun Williams.
“E-feiciau yw’r dyfodol – mae gen i un fy hunan, a dw i’n croesawu unrhyw fenter sydd am gynyddu eu defnydd.”