Mae Llety Arall – menter gymunedol yng Nghaernarfon – yn barod i groesawu grŵp ysgol am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig.
Cafodd y llety ei agor am y tro cyntaf yn 2019, ac mae’n darparu lle fforddiadwy i grwpiau bychain, teuluoedd, neu unigolion, yn enwedig dysgwyr, sydd â diddordeb mewn ymdrochi yn yr iaith ac yn niwylliant Caernarfon.
Fe wnaeth y fenter ddefnyddio hen adeilad yn y dref i greu saith ystafell wely, gan gyflogi pobol leol i gyflenwi a gweithio yno.
Yn ystod y cyfnod clo, fe gafodd wythfed ystafell wely ei hadeiladu yn yr adeilad, sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Y grŵp ysgol cyntaf yn ôl y penwythnos hwn fydd criw o Ysgol Gyfun y Strade yn Llanelli, wrth iddyn nhw ffilmio pennod o Noson Lawen.
Croesawu’n ôl
Mae Dani Schlick, un o gyfarwyddwyr Llety Arall, yn ysu i groesawu ysgolion yn ôl i’r adeilad ar Stryd y Plas.
“Rydyn ni’n falch iawn i groesawu’r grŵp o Ysgol y Strade, Llanelli,” meddai.
“Mae’n braf cael croesawu grwpiau o ysgolion unwaith eto, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu mwy yn fuan mewn ffordd ddiogel.
“Caernarfon ydy tref Gymreiciaf y byd ac felly yn lle perffaith i ymdrochi yn yr iaith a chael blas ar fywyd sy’n naturiol yn Gymraeg.
“Mae gan y dref brofiadau gwerthfawr iawn i’w cynnig i ddisgyblion, o lên i gelf, i natur, daearyddiaeth a chwaraeon, ac mae croeso i unrhyw un sydd eisiau sgwrs bellach am ddod â grŵp gysylltu â ni i drafod eu cynlluniau.”