Mae Cyngor Ceredigion wedi lansio ymgyrch i ddelio â phroblemau baeddu cŵn yn y sir.
Bydd ymgyrch Eich Ci, Eich Cyfrifoldeb yn codi ymwybyddiaeth a cheisio dylanwadu ar berchnogion cŵn i ddelio â baw yn gyfrifol.
Gan ddefnyddio arwyddion, bydd y Cyngor yn ceisio trosi neges yr ymgyrch mewn llefydd poblogaidd fel parciau, llwybrau a strydoedd.
O dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996, gall awdurdodau lleol osod dirwy o hyd at £1000 am beidio â glanhau baw ci.
‘Ceisio cael dylanwad cadarnhaol’
Wrth lansio’r ymgyrch, dywedodd y Cynghorydd Ellen Ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, bod angen gwthio pobl i ymddwyn yn fwy cyfrifol â’u cŵn.
“Yn rhan o Caru Ceredigion rydym yn gobeithio gweithio gyda’n cymunedau lleol i gael dylanwad cadarnhaol ar faterion sy’n peri pryder neu sy’n bwysig iddynt,” meddai.
“Gyda golwg ar godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn ymhellach a cheisio cael dylanwad cadarnhaol ar ymddygiad, rydym yn falch o lansio Eich Ci Eich Cyfrifoldeb.”
‘Annog pawb i wneud eu rhan’
Mae’r Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, hefyd yn eiddgar i ledaenu neges yr ymgyrch.
“Hoffem ddiolch i’r holl berchnogion cŵn cyfrifol hynny sy’n gwneud y peth iawn, a byddem yn annog pawb i wneud eu rhan i sicrhau y cedwir Ceredigion yn lân.
“Hoffwn hefyd atgoffa perchnogion cŵn y gellir cael gwared â baw ci sydd wedi’i roi mewn bag drwy ei roi mewn unrhyw fin gwastraff cyffredinol ar strydoedd Ceredigion.”