Mae mam o Ynys Môn wedi dechrau deiseb yn erbyn penderfyniad y cyngor sir i wneud holl ystafelloedd newid mewn lleoliadau hamdden yn rhai neillryw (unisex).
Dywedodd Rhian Hughes bod y penderfyniad yn “beryglus i fenywod hen ac ifanc,” gan ychwanegu y byddai hi a’i merch 14 oed yn gwrthod defnyddio’r cyfleusterau.
Penderfynodd Cyngor Ynys Môn newid y cyfleusterau “mewn ymateb i bandemig Covid-19, i alluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol a rhoi’r cyfle posib i lanhau rhwng sesiynau.”
Er bod gan ddefnyddwyr yr ystafelloedd giwbiclau eu hunain i newid ynddyn nhw, mae grŵp o famau, yn cynnwys Rhian Hughes, yn gwrthwynebu’r newidiadau.
Cyfeirion nhw at ymchwil sy’n dangos bod cyfleusterau neillryw yn arwain at fwy o ymosodiadau rhywiol yn erbyn menywod.
Roedd y ddeiseb ar-lein wedi cyrraedd ei darged o 500 llofnod erbyn amser cinio ddydd Llun, 2 Awst.
Penderfyniad yn ‘anhygoel’
Roedd y fam i un yn dweud nad oedd hi’n gwneud hyn am resymau “ffeministaidd” – ond ei bod hi’n “fam bryderus.”
“Dw i’n ddynes 45 oed ac mae fy merch yn 14 oed,” dywedodd wrth wasanaeth gohebu Democratiaeth Leol.
“Dw i o blaid ystafelloedd teulu, ond mae’r ffaith bod y cyngor wedi gwneud hyn yn anhygoel.
“Mae’r ciwbiclau yn gallu cael eu cloi, ond mae dynion yn gallu prynu camerâu am gyn lleied â £10 a gallan nhw eu rhoi o dan a dros y drysau.
“Mae yna ymchwil yn dangos bod yna lawer o ymosodiadau yn erbyn menywod mewn ardaloedd newid neillryw.
“Mae’n syml – gwnewch rota ac anfon staff gwrywaidd i ystafelloedd newid gwrywaidd a staff benywaidd at y menywod i’w glanhau.
“Mae yna lawer o ferched allan yna wedi eu cythruddo gan hyn – dw i ddim am gael hyn ar fy stepen drws.”
90% o ymosodiadau rhywiol mewn ystafelloedd neillryw
Dangosodd ymchwil gan The Times yn 2018 fod 90% o ymosodiadau rhyw mewn ystafelloedd newid wedi digwydd mewn ardaloedd neillryw, er bod llai na hanner cyfleusterau newid mewn canolfannau chwaraeon a phyllau nofio yn rhai o’r categori hynny.
O 134 adroddiad o ymosodiad rhywiol mewn ystafelloedd newid rhwng 2017 a 2018, digwyddodd 120 mewn ystafelloedd newid niwtral o ran rhyw o gymharu ag 14 mewn ardaloedd i un rhyw yn benodol.
“Mae fy merch 14 oed wrth ei bodd â chwaraeon a nofio, ond dydy hi ddim yn fodlon newid pan mae dynion yno,” ychwanegodd Rhian Hughes.
“Does dim unrhyw ffordd y bydd hi’n teimlo’n gyffyrddus, a fyswn i ddim yn gadael iddi gael cawod wrth ymyl dyn.
“Fydd hi ddim yn ymweld ag ystafelloedd newid neillryw – mae ystafelloedd newid cymysg yn beryglus.”
Mae’r ddeiseb yn galw ar ystafelloedd newid gael eu newid yn ôl i ardaloedd benywaidd a gwrywaidd gan honni bod y newid yn “gwahaniaethu yn erbyn menywod” a’r rhai sydd â “chredoau crefyddol a diwylliannol” penodol.
‘Parhau i fonitro’r sefyllfa’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn ei fod wedi derbyn cwynion am yr ystafelloedd newid yng nghanolfan hamdden Plas Arthur yn Llangefni.
“Mae’r ardaloedd hyn wedi’u gwahanu gan ddrysau y gellir eu cloi er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu newid yn breifat,” meddai.
“Mae pob ardal yn benodol ar gyfer y bobl maen nhw wedi eu dynodi ac mae aelod o staff yn archwilio’r ystafelloedd newid cyn ac ar ôl pob sesiwn.
“Cyn y pandemig, roedd ein hystafelloedd newid wedi’u gwahanu yn adrannau dynion a menywod ac roedd gan Blas Arthur adran deuluol hefyd.”
Dywedodd y llefarydd fod gan y mwyafrif o “ganolfannau hamdden modern” ystafelloedd newid wedi’u rhannu i ystafelloedd teulu ac unigol, a honnodd bod hynny’n “cynyddu preifatrwydd y defnyddiwr”, cyn dweud efallai na fydd y newidiadau yn barhaol beth bynnag.
“Yn naturiol, fyddwn ni’n ystyried goblygiadau llacio cyfyngiadau ymhellach, ac rydyn ni’n disgwyl dychwelyd at y trefniadau newid blaenorol pan fo’n ddiogel i wneud hynny,” ychwanegodd.
“Rydyn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa ac rydyn ni’n croesawu unrhyw adborth pellach gan breswylwyr.”