Mae Cyngor Ceredigion, mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru, wedi dechrau cynllun i ddosbarthu pecynnau lles ar gyfer gofalwyr ifainc y sir.

Bydd y pecynnau’n cynnwys chwe llyfr darllen, potel ddŵr, pecyn o hadau i wenynod a bar o siocled Cymreig.

Hefyd, bydd yn cynnwys Dyddlyfr Sgiliau Gofalwyr Ifanc, sydd wedi ei greu gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr i gefnogi a chofnodi sgiliau.

Nod cynllun Caru Darllen Ceredigion yw cefnogi iechyd, lles a datblygiad darllen plant a phobol ifanc, yn enwedig oherwydd effeithiau negyddol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Cydnabod ‘gwaith rhagorol’ gofalwyr ifanc

Mae’r cynghorydd Catherine Hughes, sydd hefyd yn Eiriolwr dros Ofalwyr, wedi ei phlesio gan drefniadau’r cynllun.

“Rwy’n falch iawn o’r cynllun gwych hwn rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a’r Awdurdod Lleol i ddarparu pecynnau lles ystyrlon i’n gofalwyr ifanc,” meddai’r Aelod Cabinet.

“Mae bod yn ofalwr ifanc yn heriol ar y gorau, ond cyflwynwyd pwysau ychwanegol dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig.

“Gobeithiwn y bydd y pecynnau lles yn rhoi mwynhad mawr i’n gofalwyr ifanc wrth inni gydnabod eu gwaith rhagorol.”

Cyfle i ‘ymgolli’ mewn llyfrau

Mae Rheolwr Datblygu Hyrwyddiadau Darllen Cyngor Llyfrau Cymru yn nodi pwysigrwydd darllen i iechyd a lles plant a phobol ifanc.

“Mae’n hyfryd cael gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion eto ar gynllun mor werthchweil a fydd yn rhoi hwb i hyder ac yn cydnabod cyflawniadau’r gofalwyr ifanc hyn yn ystod cyfnod anodd iawn,” meddai.

“Gall ymgolli mewn llyfr fod yn ffordd effeithiol i ni i gyd gymryd seibiant o bwysau beunyddiol bywyd, a gobeithiwn y bydd y pecynnau llyfrau hyn yn annog eu taith ddarllen hefyd.”