Mae Siop Farbwr wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000 a Hysbysiad Gwella Mangre am fethu a chydymffurfio â’r rheoliadau Covid-19.

Daw hynny’n dilyn sawl ymweliad gan swyddogion o dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion i’r siop ‘Venus Barber’ ar Ffordd y Môr, Aberystwyth.

Ar Fawrth 16, rhoddwyd Hysbysiad Cydymffurfio i’r busnes i’w hysbysu’n ffurfiol ei bod yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r rheoliadau.

Wedi hynny, cafwyd sicrwydd gan y busnes y byddent yn dilyn y cyngor ac yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau perthnasol.

Fodd bynnag, pan anwybyddwyd yr Hysbysiad Cydymffurfio a phan welwyd bod y busnes yn parhau i beidio â chydymffurfio, roedd rhaid cymryd camau pellach.

Mae gan y sawl sy’n gyfrifol dros y busnes 28 diwrnod i dalu’r Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000.

Gall methu â chydymffurfio â’r Hysbysiad Gwella Mangre arwain at gyflwyno Hysbysiad Cau Mangre, hysbysiadau cosb benodedig bellach, neu’r ddau.

Canllawiau i fusnesau

Ar hyn o bryd, caniateir i siopau barbwr a siopau trin gwallt agor ond ar sail apwyntiad yn unig.

Mae hyn er mwyn sicrhau bod y busnesau hyn yn gallu darparu gwasanaethau torri/steilio gwallt i’r cyhoedd gan leihau’r amser y mae cwsmeriaid yn ei dreulio dan do gyda staff a chwsmeriaid eraill.

Ar hyn o bryd, ni chaniateir i siopau barbwr a safleoedd trin gwallt gael cwsmeriaid yn aros ar y safle, a dim ond ar adeg eu hapwyntiadau y dylid caniatáu i gwsmeriaid fynd i mewn i’r safle.

Mae canllawiau i fusnesau barbwr a thrin gwallt ar gael fan hyn, drwy wefan Cyngor Sir Ceredigion.