Mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio penodi nifer o brentisiaid newydd mewn amrywiaeth o feysydd dros y misoedd nesaf.
Daw hyn wedi lansio Cynllun Prentisiaethau’r Cyngor yn 2019, gyda nifer o’r unigolion gafodd gyfle ar y pryd bellach wedi symud ymlaen i swyddi gyda’r Cyngor.
Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth gyda’r Cyngor ac mae cyfleoedd ar agor i unrhyw un sydd dros 16 oed, sy’n byw yng Nghymru a heb fod mewn addysg lawn amser.
Mae prentisiaeth gyda Cyngor Gwynedd yn cynnig dechrau ar lwybr gyrfa, trwy gynnig cyfle i ddysgu wrth weithio, magu profiad proffesiynol yn ogystal â chymhwyster perthnasol a hyn oll drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Sylfaen wych i bobl ddatblygu gyrfa”
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar y maes:
“Fel Cyngor, rydan ni eisiau sicrhau swyddi da i bobl Gwynedd ac fel un o gyflogwyr mwyaf y sir, mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu gweithlu o safon i’r dyfodol.
“Trwy’r cynllun prentisiaethau, rydan ni yn awyddus i gynnig profiad o weithio ochr yn ochr efo swyddogion arbenigol, yn ogystal â sicrhau hyfforddiant, datblygu sgiliau a chymwysterau wrth weithio.
“Mae hi mor wych gweld fod nifer o’r unigolion gafodd gyfle prentisiaeth gyda Chyngor Gwynedd wedi gallu datblygu a sicrhau swydd yn yr awdurdod.
“Does dim dwywaith fod y cynllun prentisiaethau yn cynnig sylfaen wych i bobl ddatblygu gyrfa, a hynny drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, wrth gwrs.
“Mae yna gyfleoedd ar gael mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys yn y maes gofal oedolion, anableddau dysgu, gofal plant, peirianneg sifil, busnes a gweinyddiaeth a thechnoleg gwybodaeth.”
“Mae prentisiaethau yn gyfle gwych”
Ers 2019, mae Mared Wyn Owen wedi bod yn dilyn prentisiaeth fel Prentis Maes Gofal Oedolion ac wedi cael budd sylweddol o’r cynllun. Mae hi’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i fynd amdani.
Meddai Mared Owen: “Ydach chi’n meddwl gwneud prentisiaeth yn y maes gofal oedolion?
“Ewch amdani, mae’n braf darfod pob shifft yn gwybod bod chi wedi gwneud gwahaniaeth i ddiwrnod unigolyn.”
Mae Ceris Alaw Jones wedi bod yn brentis Peirianneg Sifil Priffyrdd a Bwrdeistrefol gyda’r Cyngor:
“Mae prentisiaeth yn gyfle gwych i berson ifanc,” meddai, “dwi wedi cael profiadau amrywiol iawn ers cychwyn ar y cynllun a wir wedi mwynhau.
“Mae’n grêt cael y profiad, cymhwyster, ennill cyflog a chael cymorth fy nghydweithwyr i gyd ar unwaith.”
Bydd manylion am yr holl brentisiaethau sydd ar gael gyda Cyngor Gwynedd dros yr wythnosau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan a bydd y cyfleoedd hefyd yn cael eu hyrwyddo ar gyfrifon cymdeithasol y Cyngor.