Mae adroddiad newydd gan Traws Link Cymru wedi datgelu y gallai rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin fynd drwy, Llanilar, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Llanybydder a Phencader.

Yn ôl Traws Link Cymru byddai’n rhedeg gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, gyda’r siwrne’n cymryd 85 munud.

Mae Ivor Williams, cynghorydd ward yn Llanbedr Post Steffan, wedi dweud wrth golwg360 y byddai’n “neis” cael rheilffordd yn mynd drwy’r dref eto.

“Byddai’n neis cael rheilffordd yn Llanbed ac yn ddefnyddiol i’r coleg mae’n debyg,” meddai.

“Yn sicr, byddai’n gwneud gwahaniaeth yn y dref.

“Dw i’n cofio’r hen reilffordd oedd yma ac roedd yn cael cryn ddefnydd pan oeddwn yn ifanc.

“Wyddwn i ddim a fyddai pobol yn ei ddefnyddio gymaint nawr, ond dw i’n siŵr y byddai’n beth da i’r dref.”

Ailagor rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin am gostio llai na’r disgwyl

Bydd ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn costio tipyn llai na’r disgwyl, yn ôl yr adroddiad.

Traws Link Cymru, sef grŵp Ymgyrch Rheilffordd Gorllewin Cymru, sydd wedi cyhoeddi’r adroddiad ‘Coridor Rheilffordd Strategol Newydd’ sy’n seiliedig ar ymchwil newydd ar ailagor y rheilffordd.

Honodd y dadansoddiad diweddaraf gan Traws Link Cymru fod diffygion sylweddol yn astudiaeth Mott Macdonald, awdur yr adroddiad gwreiddiol ar ran Llywodraeth Cymru yn 2018.

Daeth yr astudiaeth honno i’r casgliad nad oedd rhwystrau mawr i ailagor y lein, ond y byddai’r rheilffordd newydd yn costio oddeutu £775m.

Yn ôl Adrian Kendon, Cadeirydd Traws Link Cymru, “mae yna hepgoriadau pwysig yn yr adroddiad, a fethodd, er enghraifft, ag ystyried cyflwr y tri thwnnel ar yr hen lwybr ac a oedd hefyd yn tanamcangyfrif poblogaethau dalgylchoedd”.

“Mae ein gwaith pellach ar yr astudiaeth yn datgelu unwaith y bydd y dalgylch chwyddedig o amgylch y gorsafoedd arfaethedig yn cael ei ystyried, mae’r gymhareb cost a budd yn gwella, a chyda dulliau adeiladu modern, gellid lleihau cost ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin i oddeutu £620 miliwn, 20% yn llai na’r hyn a awgrymwyd yn adroddiad Mott Macdonald,” meddai.

“Byddwn nawr yn anfon ein hadroddiad i wleidyddion y Senedd a San Steffan.”

Ceredig Davies yn amheus

Mae’r Cynghorydd Sir, Ceredig Davies, sy’n cynrychioli ward Canol Aberystwyth, wedi dweud wrth golwg360 nad yw’n ymddiried yn Llywodraeth Cymru i wario arian yng Ngheredigion.

“Yn ddelfrydol, byddai ailagor y rheilffordd o fudd i ganolbarth Cymru ac er bod y gost yn llai nawr dw i dal yn amheus bod arian mawr am gael ei ddarparu i’r ardal tra mae Llafur mewn pŵer yng Nghaerdydd.

“Fale mod i’n sinigaidd ond mae Llafur yn gwario yn lle mae ganddyn nhw gefnogaeth, a’r cymoedd ydi fanno ran amlaf.”

A dyw Ceredig Davies ddim yn teimlo bod y rheilffordd yn dal i fod yn bwnc trafod yn Aberystwyth.

“Pan roedd yna ymgyrch flwyddyn neu ddwy yn ôl, roedd hwn yn bwnc trafod ond dydi e ddim ar hyn o bryd, mae meddyliau pobol ar bethau mwy na’r rheilffordd.

“Mae e hefyd yn dalcen caled o ran sgil-effaith ar y gymuned, oherwydd os bydd twnnel yn mynd drwy Penparcau fel sydd wedi cael ei grybwyll, dw i ddim yn rhagweld y bydd yno ymateb da i hynny.”