Annwyl Ffrindiau,
Dwi’n dweud “ffrindiau”, er nad fel yna dwi wedi’ch trin chi bob tro.
Mae’n ddrwg gen i nad ydw i wedi bod yn fwy caredig. Mi hoffwn i ymddiheuro ar ran y cenedlaethau hŷn am ddilyn y patrwm a osodwyd i ni, a gweld bai ar y rhai mewn glasoed. Mae yna gymaint o gamweddau wedi dod i’ch rhan – gadewch i mi ymddiheuro, ar ein rhan ni i gyd.
Am wneud naïfrwydd eich plentyndod ifanc yn sanctaidd, ac am droi arnoch chi pan rydych chi’n dechrau dangos arwyddion o feddwl yn annibynnol. Am gau’r Clwb Ieuenctid, ac wedyn y parc sglefrio, cyn cwyno eich bod chi’n dwyn lle’r plant bychain os fyddwch chi’n mynd i’r parc chwarae.
Am ddisgwyl i chi allu gweithio, astudio, cynnal cyfeillgarwch, glanhau eich llofftydd, golchi llestri, a bod yn siriol, er ein bod ni wedi creu system addysg a system byw sydd ddim yn dysgu’r pethau hynny i chi. Am ein bod ni’n mesur gwerth person rhwng graddau A*-F, ac yn gwrthod rhannu’r gyfrinach fawr nad ydych chi’n debygol o fod angen yr wybodaeth rydach chi’n ei astudio byth eto.
Am y cwynion ar grwpiau facebook am bobol ifanc yn cadw twrw, cadw’r oed, aros allan ar ôl wyth y nos, chwerthin, cyfathrebu, mwynhau. Am gwyno am yr amser rydach chi’n ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol heb greu llefydd i chi gymdeithasu wyneb-yn-wyneb.
Am ei fod yn gyfreithlon i chi ymuno â’r fyddin neu fod yn rhiant a chithau’n 16 oed, ond i beidio ymddiried digon i ganiatáu i chi yfed alcohol, cael tattoo neu wylio ffilmiau sy’n ddychrynllyd.
Am lygru ac anharddu a gwenwyno’ch etifeddiaeth chi, y tir a’r môr a’r awyr i gyd.
Mi wn i nad ydy pleidlais yn teimlo fel llawer, a dydy o ddim yn ddigon i wneud iawn am yr holl gamweddau sy’n dod i’ch rhan chi. Ond mae o’n rhywbeth. Mae o’n sws mewn bocs, yn llais sy’n dechrau cael ei glywed, yn ddatganiad. Rydw i’n cofio bod yn un ar bymtheg. Rydw i’n gwybod mai dyna’r fersiwn puraf, mwyaf triw a gonest o berson. Mae gan bobol dueddiad i bylu gyda’r blynyddoedd – plîs, peidiwch. Plis, peidiwch â thyfu i fyny i fod fel ni.
Gosodwch eich pleidlais ble y mynnoch – rydych chi’n gwybod gymaint mwy na ni.
Yn Gywir,
Y Rhai a fu Unwaith yn Ifanc.