Y Drenewydd 0 – 1 Bangor

Bu ond y dim i’r Drenewydd gipio pwynt gwerthfawr ddydd Sadwrn wrth i’r tîm ar waelod yr Uwch gynghrair herio’r tîm ar y brig.

Sgoriodd Craig Garside gôl ym munud olaf y gêm i Fangor gan sicrhau eu bod yn dal i fod deg pwynt ar y blaen i’r Seintiau Newydd ar y brig.

Roedd yn ymddangos bod y tîm cartref yn mynd i sicrhau gêm gyfartal am gyfnod hir nes i’w hamddiffynnwr Michael Jackson gael ei yrru o’r maes gydag wyth munud yn weddill. Sgoriodd Garside saith munud yn ddiweddarach i sicrhau deunawfed buddugoliaeth Bangor o’r tymor.

Hwlffordd 1 – 4 Y Seintiau Newydd

Mae’r Seintiau Newydd yn dal i gynnal y pwysau ar Fangor wedi iddynt ennill eu chweched gêm o’r bron yn erbyn Hwlffordd.

Roedd yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen wedi dim ond 12 munud o’r gêm – Craig Jones a Matty Williams yn sgorio’n gynnar yn y gêm.

Roddodd Jack Christopher obaith i Hwlffordd pan sgoriodd i’w gwneud yn 2 – 1 wedi 58 munud, ond sicrhawyd y tri phwynt i’r Seintiau gyda gôl i Chris Sharp ar ôl 72 munud ac yna ail y gêm i Matty Williams ddwy funud o’r diwedd.

Aberystwyth 0 – 2 Llanelli

Mae rhediad anghyson diweddar Aberystwyth y parhau wedi iddyn nhw golli o 2 – 0 yn erbyn Llanelli ar Goedlen y Parc.

Mae carfan Llanelli wedi dioddef o nifer o anafiadau’n ddiweddar ond bydd Andy Legg yn hapus gyda pherfformiad ei dîm sy’n golygu eu bod nhw’n codi i’r pedwerydd safle.

Collodd Aberystwyth eu capten Barry Morgan wedi iddo weld ail garden felen wedi pum munud o’r ail hanner. Dyma oedd dechrau’r diwedd i’r tîm cartref wrth i Wyn Thomas sgorio’r gyntaf i Lanelli wedi 54 munud ac yna Craig Williams yn sgorio’r ail dair munud yn ddiweddarach.

Prestatyn 1 – 1 Port Talbot

Mae Prestatyn a Phort Talbot ill dau yn cadw eu lle yn y chwech uchaf wedi gêm gyfartal ddydd Sadwrn.
Sgoriodd Jon Fisher-Cooke i’r tîm cartref wedi dim ond naw munud cyn i Matthew Thomson ddod a’r sgôr yn gyfartal wedi 56 munud o’r gêm.

Castell Nedd 1 – 0 Airbus

Roedd camerâu S4C yng Nghastell Nedd ar gyfer gêm fyw Sgorio’r penwythnos hwn, a’r tîm cartref aeth a hi mewn brwydr agos.

Roedd yr ymwelwyr yn meddwl eu bod ar y blaen pan beniodd Gavin Cadwallader i’r rhwyd, ond dyfarnwyd ei fod yn camsefyll.

Daeth Ricky Dorman a Danny Desormeaux yn agos i Airbus hefyd, ond Castell Nedd sgoriodd y gôl dyngedfennol gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill.

Llwyddodd golwr yr ymwelwyr, Kristian Rogers i arbed ergyd wreiddiol Lee Trundle ond adlamodd y bêl yn ôl i draed yr ymosodwr a basiodd i Chad Bond allu rolio’r bêl i rwyd wag.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Airbus yn aros un safle’n is na’r chwech uchaf hollbwysig tra bod Castell Nedd yn drydydd.

Tywydd yn trechu Y Bala a Chaerfyrddin

Yn anffodus bu’n rhaid gohirio’r gêm rhwng Y Bala a Chaerfyrddin oherwydd y tywydd gwlyb gyda chae Y Bala, Maes Tegid, dan ddŵr.