Mae bron i hanner yr oedolion sy’n dioddef o awtistiaeth yng Nghymru yn teimlo nad ydi’r gofal sydd ar gael yn cwrdd â’u hanghenion.
Yn ôl adroddiad gan Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru mae 54% o oedolion sy’n dioddef yn teimlo nad oes gofal digonol ar eu cyfer.
Mae’r adroddiad The Life We Choose: Shaping Autism Services in Wales yn dweud mai diffyg gwasanaethau, system anhyblyg, a diffyg gwybodaeth ar gyfer pobol sy’n dioddef a’u gofalwyr sy’n gyfrifol.
Roedd 58% yn teimlo bod y broses o benderfynu eu bod nhw’n dioddef wedi cymryd yn rhy hir, a 10% o’r rheini gafodd wybod eu bod nhw’n dioddef yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn dweud eu bod nhw wedi aros dros 10 mlynedd am ddiagnosis.
Dim ond 30% o oedolion oedd â’r cyflwr oedd yn gwybod sut oedd cael cefnogaeth.
“Er gwaetha’r cynnydd sydd wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf ar draws Cymru, mae ein hymchwil ni’n dangos bod nifer o bobol angen rhagor o gynhaliaeth,” meddai Mark Lever, prif weithredwr y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.
“Rydym ni’n gwybod bod yr hinsawdd economaidd yn heriol i bawb ar hyn o bryd, ond mae methu a helpu pobol yn ddigon cynnar yn gallu gwneud pethau’n waeth, ac arwain at orfod gwario rhagor o arian yn y pen draw.”