Mae’r Cynulliad wedi lansio ymgyrch ar-lein heddiw â’r nod o annog pobol ifanc i bleidleisio yn y refferendwm ar ragor o ddatganoli ac Etholiadau’r Cynulliad.

Neges yr ymgyrch sy’n targedu pobol rhwng 18 a 35 oed yw eu bod nhw’n pleidleisio bob dydd beth bynnag – wrth wylio’r X Factor, Strictly Come Dancing, neu hyd yn oed wrth ddewis rhwng reis a chips.

Fe fydd y hysbysebion ar-lein yn ymddangos ar gyfrifon Facebook a Hotmail pobol ifanc Cymru, yn Gymraeg a Saesneg.

Maent yn cynnig cyfres o ddewisiadau i’r darllenwr, gan gynnwys ‘iPhone neu Blackberry?’ a ‘Xbox neu Playstation?’

“Os ydym ni’n ddifrifol ynglŷn â chyrraedd pobol ifanc mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r rhwydweithiau y maen nhw’n eu defnyddio,” meddai Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

“Rydym ni’n ceisio gwneud rhywbeth gwahanol er mwyn cyrraedd pawb yng Nghymru, nid y grŵp arferol o bobol yn unig.”

Fe fydd y refferendwm yn cael ei gynnal ar 3 Mawrth ac Etholiad y Cynulliad ar 5 Mai. Mae’n rhaid i’r Cynulliad aros yn niwtral wrth hysbysebu’r etholiadau.