Roedd yr actor Prydeinig, Colin Firth, yn dathlu heddiw ar ôl derbyn gwobr yr actor gorau yn seremoni’r Golden Globes.
Roedd llwyddiant hefyd i Christian Bale, gafodd ei eni yn Hwlffordd, a gipiodd gwobr yr actor orau nad oedd yn chwarae’r brif ran.
Derbyniodd Colin Firth ei wobr ef am ei ran yn actio’r Brenin Siôr VI yn The King’s Speech, gan roi hwb mawr iddo cyn cyhoeddiad enwebiadau gwobrau’r Oscars ddiwedd y mis.
Enillodd Christan Bale ei wobr yntau am ei ran yn The Fighter yn ystod y seremoni yn Los Angeles oedd yn frith o rai o sêr mwyaf y diwydiant ffilm.
Roedd The King’s Speech wedi derbyn saith enwebiad, ond dim ond Colin Firth gipiodd y wobr yn y pen draw.
Enillodd Natalie Portman wobr yr actores orau mewn drama am ei rhan yn y ffilm bale, Black Swan.
Enillodd David Fincher y wobr gyfarwyddo am The Social Network, ffilm am wefan rhwydweithio cymdeithasol Facebook a gipiodd bedair gwobr yn y pen draw.