Mae’r heddlu wedi dweud nad ydyn nhw bellach yn ystyried amgylchiadau marwolaeth dyn 24 oed ar Ynys Môn yn amheus.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn tua 2.45pm ddydd Sadwrn mewn adeilad ym mhentref Llanddaniel ar yr ynys.

Roedd yr heddlu wedi dweud i ddechrau nad oedd esboniad amlwg ynglŷn â’r farwolaeth, ond yn dilyn ymchwiliad dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw bellach yn credu fod ynaamgylchiadau amheus.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio ar ran y crwner.