Mae yna adroddiadau bod Newcastle Utd yn cynnal trafodaethau gyda Chaerdydd yn y gobaith o arwyddio Jay Bothroyd.
Mae hyfforddwr newydd clwb yr Uwch Gynghrair, Alan Pardew yn credu y bydd yr ymosodwr o ddefnydd yn ail hanner y tymor.
Fe fydd cytundeb presennol Bothroyd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac fe allai adael am ddim bryd hynny.
Ond fe allai’r Adar Glas gael swm go dda o arian amdano pe baen nhw’n gadael i’r Sais adael y clwb yn ystod y ffenestr trosglwyddo bresennol.
Fe fydd rhaid i berchnogion Caerdydd benderfynu a ydyn nhw am gael arian am Bothroyd nawr neu ei gadw am weddill y tymor a rhoi hwb i’w gobeithion o ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Fe allai diddordeb Newcastle Utd yn Jay Bothroyd hefyd ysgogi timau eraill i wneud cais am yr ymosodwr.
Mae yna sôn bod Everton, Fulham, West Ham a Blackburn yn llygadu prif sgoriwr Caerdydd.
Dyw Jay Bothroyd heb chwarae dros Gaerdydd ers 12 Rhagfyr oherwydd anaf ac mae disgwyl iddo fod allan am o leia’ wythnos arall.
Yn y cyfamser mae disgwyl i ymosodwr newydd yr Adar Glas, Jon Parkin, chwarae ei gêm gyntaf i’r clwb yn erbyn Norwich yfory.