Mae amddiffynnwr Abertawe, Alan Tate am weld yr Elyrch yn taro yn ôl â buddugoliaeth yn y Bencampwriaeth yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Liberty yfory.

Fe fydd Tate yn gapten ar y tîm yn absenoldeb Garry Monk sy’n wynebu hyd at wythnos ar yr ystlys gydag anaf i’w ben-glin.

Roedd Alan Tate yn cydnabod bod colli eu capten dylanwadol wedi bod yn ergyd i’r Elyrch. Ond dywedodd ei fod yn falch iawn o’r cyfle i gael arwain y tîm.

“Mae’n bleser cael bod yn gapten ar yr Elyrch. Rydw i wedi arwain y tîm o bryd i’w gilydd ers cyfnod Roberto Martinez.

“Fe fyddai’n braf cael bod yn gapten llawn amser pan fydd yr hen ddyn (Garry Monk) yn ymddeol!”

Fe gollodd Abertawe yn erbyn Caerlŷr yn eu gêm ddiweddaraf yn y Bencampwriaeth ar ôl curo Barnsley a Reading.

Maeddodd yr Elyrch Colchester 4-0 yng Nghwpan yr FA y penwythnos diwethaf, ond mae Tate am weld yr Elyrch yn sicrhau buddugoliaeth yn y Bencampwriaeth.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n osgoi colli dwy gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth. Fe fydd rhaid i ni i daro yn ôl yn erbyn Crystal Palace,” meddai Alan Tate.

“Dyw hi ddim yn mynd i fod yn hawdd gan fod Palace yn hanner isaf yr adran ac fe fyddan nhw’n ysu am y pwyntiau.”