Roedd tri dyn o Gaerdydd ymysg naw ymddangos o flaen llys yr Old Bailey drwy gysylltiad fideo heddiw.
Mae’r naw wedi eu cyhuddo o gynllunio ymosodiadau terfysgol ar y Gyfnewidfa Stoc, Tŷ’r Cyffredin a Llysgenhaty’r Unol Daleithiau.
Honnir eu bod nhw hefyd wedi gobeithio targedu enwau gwleidyddol a chrefyddol cyn y Nadolig.
Y difinyddion o Gaerdydd oedd Gurukanth Desai, 29, o Stryd Albert, Omar Sharif Latif, 27, o Stryd Neville, a Abdul Malik Miah, 24, o Stryd Parc Ninian.
Cafodd y difinyddion eu cadw yn y ddalfa nes gwrandawiad arall ar 25 Chwefror. Dywedodd yr Ustus Calvert-Smith na fyddai’r achos llys yn cael ei gynnal nes o leiaf mis Ionawr 2012.
Roedd y terfysgwyr honedig eraill o Lundain a Stoke-on-Trent. Cafodd y naw eu harestio yn oriau man y bore 21 Rhagfyr.
Roedd heddlu ychwanegol yn y llys wrth i tua 20 aelod o’r English Defence League gynnal protest y tu allan i’r llys gan ddweud eu bod nhw’n gwrthwynebu ‘Mwslimeiddio Prydain’.