Mae o leiaf 514 o bobl wedi marw ar ôl i lifogydd trwm achosi tirlithriadau ym Mrasil.
Dyw’r awdurdodau heb amcangyfrif eto faint o bobl sydd ar goll yn dilyn y trychineb sydd wedi effeithio’n bennaf ar drefi mynyddig i’r gogledd o’r brifddinas Rio de Janeiro.
Mae yna ofnau bydd nifer y bobol sydd wedi marw yn y llifogydd yn cynyddu’n sylweddol dros y dyddiau nesaf.
Mae llifogydd a thirlithriadau yn gyffredin ym Mrasil yn ystod yr haf. Ond mae’r tirlithriadau diweddaraf gyda’r gwaethaf yn hanes y wlad
Y tlawd sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y stormydd am eu bod nhw’n tueddu i fyw mewn tai bregus ar lethrau mynyddig.
Ond mae cartrefi mawr rhai o drigolion cyfoethog y rhanbarth hefyd wedi eu difrodi gan y llifogydd.
Dywedodd Asiantaeth Amddiffyn Sifil Brasil bod o leiaf 222 o bobl wedi eu lladd yn nhref Teresopolis, 214 yn Nova Friburgo a 40 yn Petropolis.
Mae tua 14,000 o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi oherwydd y llifogydd a’r tirlithriadau.