Mae bron i 2,000 o deithwyr Prydeinig wedi gorfod gadael Tunisia ar ôl i filoedd o bobol orymdeithio drwy’r strydoedd er mwyn protestio yn erbyn y llywodraeth.
Prynhawn yma cyhoeddodd y Prif Weinidog Mohammed Ghannouchi ei fod o mewn rheolaeth ar ôl i’r Arlywydd Zine El Abidine Ben Ali ffoi’r wlad.
Ychydig ynghynt roedd yr Arlywydd wedi dweud y byddai’n diswyddo ei lywodraeth a galw etholiadau o fewn chwe mis.
Gorymdeithiodd miloedd o brotestwyr blin drwy’r brifddinas Tunis (dde) gan alw arno i fynd. Maen nhw’n anhapus â diweithdra, chwyddiant a llywodraeth lwgr y wlad.
Cwmni’r gorymateb?
Dywedodd cwmni teithio Thomas Cook na fydden nhw’n hedfan neb arall i Dunisia ac y byddai 1,800 o deithwyr oedd yn y wlad yng ngogledd Affrica yn cael eu hedfan oddi yno.
Yn ôl rhai o’r teithwyr oedd yn cyrraedd yn ôl i Brydain roedd y protestio wedi troi’n dreisgar, gan ddinistrio siopau a dwyn nwyddau.
Ond dywedodd Richard Waudby, 52 oed, o Kings Lynn, Norfolk, bod Thomas Cook wedi gorymateb.
Dywedodd ei fod wedi colli £1000 ar ôl cael ei hedfan yn ôl wythnos yn unig ar ôl cyrraedd ar wyliau saith wythnos.
“Doedd gan y protestwyr ddim drwgdeimlad tuag atom ni, roedden nhw eisiau twristiaid yno,” meddai.