Mae Dan Parks a Casey Laulala yn dychwelyd i dîm y Gleision i wynebu Castres yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.
Mae Richard Mustoe hefyd yn dychwelyd ar yr asgell gyda Tom James yn disgyn i’r fainc.
Ond mae canolwr Cymru, Tom Shanklin a Ben Blair allan gydag anafiadau i’w pengliniau, tra bod Richie Rees wedi dechrau ar ei waharddiad 12 wythnos.
Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Dai Young wedi gwneud pedwar newid ymysg y blaenwyr.
Gyda Xavier Rush yn gwella o anaf i’w wddf, fe fydd Maama Molitika yn dechrau yn safle’r wythwr.
Mae Martyn Williams wedi cael ei ddewis ar ochr agored y rheng ôl, ac mae’r clo, Deiniol Jones yn dechrau yn yr ail reng gyda Bradley Davies ar y fainc.
Gyda Gethin Jenkins allan am ddeg wythnos, fe fydd John Yapp yn dechrau yn safle’r prop pen rhydd gyda Fau Filise yn brop pen tynn.
Mae’r Gleision ar waelod eu grŵp yn y Cwpan Heineken ac mae Dai Young am weld ei dîm yn gadael y gystadleuaeth ar nodyn uchel.
“Ry’ ni wedi gweithio’n galed i fod yn un o brif ddetholion y Cwpan Heineken ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr os ydyn ni’n mynd allan, ein bod ni’n gwneud hynny gyda brwydr,” meddai Dai Young.
“Ni ddylai fod yn dasg fawr i ysgogi’r chwaraewyr gan fod digon o falchder ganddynt i sicrhau perfformiad cryf.”
Carfan y Gleision
15 Chris Czekaj 14 Leigh Halfpenny 13 Casey Laulala 12 Jamie Roberts 11 Richard Mustoe 10 Dan Parks 9 Tom Slater.
1 John Yapp 2 T Rhys Thomas 3 Tafa’ao Filise 4 Deiniol Jones 5 Paul Tito 6 Andries 7 Martyn Williams Pretorius 8 Maama Molitika.
Eilyddion: 16 Gareth Williams 17 Scott Andrews 18 Sam Hobbs 19 Bradley Davies 20 Ben White 21 Ceri Sweeney 22 Dafydd Hewitt 23 Tom James