Mae protestwyr yn erbyn gorsaf pŵer biomas ym Mhort Talbot wedi dweud eu bod nhw’n pryderu “y bydd ansawdd yr aer yn gwaethygu eto” os yw’r gwaith yn mynd yn flaen.

Mae cwmni Prenergy eisiau adeiladu gorsaf bŵer llosgi pren gwerth £400m fydd yn cynhyrchu digon o ynni i bweru hanner y tai yng Nghymru.

Daeth i’r amlwg heddiw bod Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn debygol o ganiatáu i’r cwmni adeiladu gorsaf bŵer fydd yn rhyddhau mwy o allyriadau nag oedden nhw wedi gwneud cais amdano’n wreiddiol.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod nhw’n ystyried caniatáu’r newidiadau ar ôl cadarnhau eu bod yn “annhebyg o niweidio ansawdd aer nac iechyd pobl leol,” meddai’r Asiantaeth.

Yn ôl Pete Wilson o’r ymgyrch yn erbyn yr orsaf bŵer mae’r newyddion diweddaraf yn “rhwystredig” iddo ef a’r ymgyrch.

“Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd wrth ganiatáu adeiladu’r orsaf bŵer yn Medi 2009 eu bod nhw wedi gosod cyfyngiadau llym ar allyriadau er mwyn gwarchod iechyd pobol, ond mae’r rheini wedi dadfeilio yn llwyr,” meddai.

“Ein gofid pennaf yw y bydd ansawdd yr aer yn gwaethygu eto. Mae gan Bort Talbot waith dur yn barod ac rydym ni’n pryderu nad yw’r aer yn llesol i’w anadlu ar rai dyddiau.

“Yr ail ofid ydi bod priodoldeb llosgi pren ar y raddfa yma. Pan ddechreuon ni ein hymgyrch pedair blynedd yn ôl doedd neb yn fodlon ochri gyda ni.

“Nawr mai sawl grŵp ymgyrchu amgylcheddol, ymgynghorwyr yn y diwydiant biomas, a chyrff proffesiynol yn cytuno gyda’n barn ni ar gynaladwyedd llosgi pren.”

Newid amodau

Fis Awst y llynedd (2010), roedd Prenergy wedi cyflwyno cais i newid rhai amodau ar eu Trwydded Amgylcheddol ar gyfer eu cynllun i godi’r orsaf bŵer llosgi coed.

Ymhlith newidiadau penodol yr oedd y cwmni’n gofyn amdanynt, roedd cynyddu’r cyfyngiad ar ollyngiadau ocsid nitrus (N2O); cynyddu’r cyfyngiad ar ollyngiadau sylffwr deuocsid (SO2)) hydrogen clorid (HCl) a; chaniatáu defnyddio pelenni coed yn ogystal â sglodion coed.

Dywedodd yr Asiantaeth eu bod nhw wedi cynnal ymchwiliad “trwyadl” i weld a fyddai’r newidiadau arfaethedig i’r drwydded yn debyg o achosi perygl neu niwed i iechyd pobl leol ac ansawdd aer ym Mhort Talbot a’r cymunedau cyfagos.

‘Hyderus’

“Yn dilyn archwiliad trwyadl o’r newidiadau yr oedd Prenergy wedi gofyn amdanyn nhw, rydyn ni’n yn hyderus y bydd y drwydded yn dal i ofyn am y safonau uchel angenrheidiol i warchod pobl leol ac ansawdd aer ym Mhort Talbot,” meddai Mary Youell o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

“Petawn ni’n meddwl y byddai’r newidiadau hyn yn cyfaddawdu ar safonau ansawdd aer neu ar y cymunedau rydyn ni’n eu gwarchod, fydden ni ddim yn ystyried eu derbyn.

“Er ein bod o’r farn y dylid caniatáu’r newidiadau, rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig fod pobl leol a grwpiau â diddordeb yn gallu gofyn i ni edrych ar ragor o wybodaeth neu ar sylwadau ar y newidiadau penodol hyn cyn i ni ddod i benderfyniad terfynol.

“Rydyn ni eisiau sicrhau pobl ein bod wedi rhoi lles y gymuned yn gyntaf ac yn flaenaf yn ein hymchwiliadau i’r newidiadau y mae’r cwmni wedi gofyn amdanyn nhw.”

Yn rhan o’r ymchwiliad, gofynnwyd am sylwadau asiantaethau allweddol megis y Bwrdd Iechyd lleol, Adran Iechyd Amgylcheddol a’r awdurdod lleol, medden nhw.

Mae gan bartïon â diddordeb a’r gymuned leol 28 diwrnod o yfory (14 Ionawr) i gyflwyno sylwadau ar y penderfyniad ‘y bwriad yw’ ei ganiatáu.