Mae Cynghorydd Plaid Cymru ar gyngor Caerdydd a Phrif Weithredwr ei phlaid, Dr Gwenllïan Lansdown, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo o’i sedd.

Mae hi wedi bod yn gynghorydd ar ward Glanyrafon ers chwe blynedd.

Bydd Gwenllïan Lansdown, a fydd yn priodi ym mis Mehefin, yn symud i ardal Llanfair Caereinion ym Mhowys yn nes ymlaen eleni.

Bydd cyngor Caerdydd yn cyhoeddi yn y man pryd y cynhelir isetholiad am y ward.

“Rwy’n llawn cyffro am fy nyweddïad ac yr wyf yn edrych ymlaen at ymgartrefu ym Mhowys. Y mae, fodd bynnag, yn golygu y byddai’n amhosibl i mi barhau i wneud yr hyn y bum yn wneud dros y chwe blynedd ddiwethaf, sef gwneud fy ngorau glas i gynrychioli pobl Glanyrafon ar gyngor Caerdydd,” meddai.

“ Bu cynrychioli’r ardal hon yn anrhydedd ac yn fraint o’r mwyaf ac yr wyf yn falch eithriadol o’r hyn y llwyddwyd i’w wneud yn ystod fy nhymor fel cynghorydd, diolch i gefnogaeth wych f’etholwyr.

“Rwyf yn wastad wedi dweud mai fy mwriad fydd ymneilltuo fel Prif Weithredwr y Blaid yn 2011, a bydd y blaid yn cychwyn ar y broses o benodi f’olynydd yn y tymor haf yn dilyn yr etholiad.

“Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i gydweithio gydag Ieuan a’r tîm i sicrhau’r canlyniad gorau i Blaid Cymru ym Mai fel y gallwn barhau o gyflwyno dros bobl Cymru.”

‘Ffigwr allweddol’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, yr AC Ieuan Wyn Jones, ei fod yn “ddiolch iddi am ei gwasanaeth ardderchog i’n prifddinas a’r wlad yn gyfan”.

“Gwn fod pobl Glanyrafon a chymunedau ar hyd Caerdydd yn gwerthfawrogi gwaith caled Gwenllïan yn cyflwyno gwell gwasanaethau ar eu rhan, gallaf eu sicrhau y bydd y Blaid yn parhau i wneud eu gorau glas i gynrychioli eu hanghenion, eu huchelgais a’u pryderon.

“Bu Gwenllian yn ffigwr allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru dros y chwe blynedd a aeth heibio – a chwaraeodd ran hanfodol yn y trafodaethau i sicrhau rôl y Blaid mewn llywodraeth yn y Cynulliad Cenedlaethol.“