Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn fu farw yn y Drenewydd ddechrau’r wythnos.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Thomas Morgan, 62 oed, o’r dref.

Prynhawn yma cafodd dyn lleol o’r enw Christopher Joseph Cluskey ei gyhuddo o achosi niwed iddo’n fwriadol.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llyn Ynadon Aberhonddu heddiw.