A ddechreuodd eich perthynas chi yng nghysgod pafiliwn yr Eisteddfod, neu yn ystod gig Maes B, neu hyd yn oed wrth wrando ar ddarlith yn y Pagoda?
Oeddech eich darpar wr neu gwraig yn elyn ar lwyfan y Pafiliwn? A ddaeth cerdd am eich cariad i’r brig yn un o’r cystadlaethau cyfansoddi?
Os ie yw’r ateb, mae’r Eisteddfod Genedlaethol eisiau clywed gennych chi.
A hithau’n dymor y cariadon, gyda Dydd Santes Dwynwen ar ein gwarthau, mae’r Eisteddfod yn awyddus i glywed unrhyw straeon caru sy’n gysylltiedig â’r ŵyl genedlaethol.
“Mae’n sicr bod nifer o bobl wedi cyfarfod eu cymar yn yr Eisteddfod dros y blynyddoedd, gyda chynifer o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn dod ynghyd i gymdeithasu,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
“Ein bwriad drwy ofyn am eich hatgofion a’ch straeon yw ychwanegu at ein harchif atgofion sy’n cael ei chreu fel rhan o ymgyrch Dathlu 150 yr Eisteddfod, er mwyn creu archif fyw o atgofion am ŵyl Flaenaf Cymru.”
Rhannwch eich atgofion rhamantus gyda’r Eisteddfod – a bydd cyfle hefyd i ennill pryd o fwyd rhamantus i ddau yn y bwyty ar Faes yr Eisteddfod eleni.
Gallwch lenwi ffurflen atgofion arlein drwy fynd i www.eisteddfod.org.uk, neu gallwch anfon atgof drwy ebostio gwyb@eisteddfod.org.uk neu drwy ymweld â tudalen yr Eisteddfod ar facebook – www.facebook.com/eisteddfod.
Bydd yr Eisteddfod yn cyhoeddi rhai o’r atgofion yn ystod yr wythnos.
Eleni, cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a’r Fro ar dir Fferm Bers Isaf oddi ar Ffordd Rhuthun o 30 Gorffennaf – 6 Awst.