Mae gobeithion Cymru yn y Chwe Gwlad wedi derbyn ergyd arall gyda’r newyddion bod Andrew Bishop allan am tua wyth wythnos.
Fe ddioddefodd Andrew Bishop anaf i’w bigwrn wrth chwarae yn erbyn y Gleision pythefnos yn ôl.
Roedd disgwyl i Bishop gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y bencampwriaeth. Fe fydd y garfan yn cael ei gyhoeddi ar 24 Ionawr.
Ond mae sgan ar yr anaf wedi datgelu bod yr anaf sydd gan Andrew Bishop yn waeth na’r disgwyl.
“R’yn ni’n credu y bydd yn absennol am hyd at wyth wythnos,” ffisiotherapydd y Gweilch, Chris Towers.
Mae Gatland eisoes wedi colli Gethin Jenkins a Richie Rees o ganlyniad i anaf a gwaharddiad dros gyfnod y Chwe Gwlad.
Ar nodyn mwy cadarnhaol mae disgwyl i Lee Byrne ddychwelyd o anaf yn erbyn Gwyddelod Llundain dydd Sul.
Fe allai asgellwr y Gweilch, Shane Williams, ddychwelyd o anaf pan fydd y rhanbarth o Gymru yn chwarae eu gêm grŵp olaf yn y Cwpan Heineken yn erbyn Toulouse ymhen wythnos.