Mae’r ‘Yorkshire Ripper’, Peter Sutcliffe, wedi cael gwybod heddiw na fydd byth yn cael ei ryddhau o’r carchar.

Gwrthododd yr Arglwydd Judge a dau o farnwyr eraill apêl ganddo yn erbyn gorchymyn iddo aros yn y carchar hyd nes ei fod yn marw.

Dedfrydwyd Peter Sutcliffe, sydd bellach yn 64 oed, i oes yn y carchar 20 o weithiau yn Llys yr Old Baily yn 1981.

Cafwyd ef yn euog o lofruddio 13 o ferched gan ddefnyddio morthwyl, sgriwdreifer, a chyllell yn Swydd Efrog a Manceinion Fwyaf.

Honnodd Peter Sutcliffe wei fod wedi clywed llais dwyfol yn dweud wrtho ladd puteiniaid. Serch hynny doedd pob un o’i ddioddefwyr ddim yn buteiniaid.

Dywedodd yr Arglwydd Judge heddiw bod “abnormaledd ei weithredoedd yn eu hunain yn awgrymu fod ganddo anhwylder meddyliol”.

Serch hynny roedd troseddau Peter Sutcliffe yn “eithafol o arswydus” meddai, ac roedd yn haeddu “dim llai” nag oes yn y carchar.