Mae’r tywydd anarferol o oer y gaeaf yma wedi ei achosi gan newid yn nyfnderoedd y môr, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Fel arfer mae Prydain yn cael gwyntoedd cynnes o’r gorllewin sydd wedi eu twymo gan For yr Iwerydd. Serch hynny dros yr wythnosau diwethaf mae gwynt oer o’r gogledd wedi bod yn chwythu ar hyd y rhan fwyaf o Ewrop.

Ond mae ymchwil gan wyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn awgrymu bod y gwyntoedd o’r gorllewin hefyd yn oeri a hynny o ganlyniad i newid yn nhymheredd dyfnderoedd yr Iwerydd.

Mae’r canfyddiadau, gyhoeddwyd heddiw yng nghylchgrawn Science, yn awgrymu bod llai o ddŵr crynhes trofannol yn cael ei gario tua’r gogledd er mwyn cynhesu’r gwyntoedd.

Yn ôl yr ymchwil mae dyfroedd gogledd yr Iwerydd wedi bod yn llenwi â dŵr oedd wedi ffurfio ger yr Antartig ac wedi llifo i fyny i’r gogledd yn lle.

Mae tystiolaeth bod hyn wedi digwydd sawl gwaith ddiwedd yr Oes Ia ddiwethaf ond bod cylchrediadau’r môr wedi sefydlogi rhywfaint ers hynny, medden nhw.

“Mae’r ymchwil yn dangos pa mor ddeinamig a sensitif yw cylchrediad y moroedd,” Dr David Thornalley, o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr Caerdydd.

“Er bod cylchrediad moroedd y byd yn llawer mwy sefydlog nawr nag yr oedd ddiwedd yr Oes Ia diwethaf, mae’n bwysig ein bod ni’n ymestyn ein dealltwriaeth o’r system fel ein bod ni’n gwybod sut y bydd yn ymateb pan mae’r hinsawdd yn newid.”