Mae cyn-Brif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri wedi galw ar y Llywodraeth yn San Steffan i dynnu TAW oddi ar dimau achub mynydd.
Dywedodd Iwan Huws sydd bellach yn ymgeisydd Plaid Cymru yn Aberconwy bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gado gwneud hynny cyn yr etholiad y llynedd.
Mae’n annheg gofyn i wasanaeth hanfodol dalu treth yn ystod yr amseroedd heriol hyn, meddai.
Ychwanegodd Iwan Huws ei fod yn amcangyfrif bod TAW yn costio rhwng £150,000 – £200,000 i dimau Achub Mynydd Parc Cenedlaethol Eryri.
yn darparu gwasanaethau hanfodol drwy’r flwyddyn, cred ymgeisydd y Blaid y dylai’r arian a delir i’r Trysorlys gael ei gadw neu ei ad-dalu i dimau lleol i ddarparu .
‘Anghywir’
“Yn ystod fy amser yn Brif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri gwelais â’m llygaid fy hun waith dewr a diflino’r timau Achub Mynydd a’r gwasanaeth ymroddedig maent yn ei roi i gymdeithas,” meddai Iwan Huws.
“Bu gwaith timau megis tîm lleol Achub Mynydd Dyffryn Ogwen y gaeaf hwn yn eithriadol, a dylent gael cefnogaeth Llywodraeth San Steffan yn hytrach na gorfod wyneb straen barhaus biliau TAW.
“Arian yw hwn y gellid ei wario ar gerbydau, hyfforddiant neu gyfarpar ychwanegol allai helpu i achub bywydau.
“Amcangyfrifir bod y tîm Achub Mynydd yn talu £150,000 i £200,000 y flwyddyn mewn TAW, a chyda’r dreth yn awr yn codi i 20%, byddant dan fwy fyth o bwysau.
“Mae Achub Mynydd yn gwneud gwaith hynod werthfawr, a dylid eu cefnogi. Mae’n bryd i Lywodraeth San Steffan ddileu’r TAW a chynnal ein gwasanaeth awyr agored hanfodol yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain.”