Ni fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Nyffryn Aman yn 2014 ar ôl i’r trefnwyr fethu a dod o hyd i safle addas.

Datgelodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, nad oedden nhw wedi gallu dod o hyd i safle er mwyn dod a’r ŵyl yn ôl i’r dyffryn am y tro cyntaf ers Eisteddfod Rhydaman 1970.

Dywedodd Elfed Roberts ei fod wedi addo ystyried lleoliad o fewn Dyffryn Aman cyn unrhyw ran arall o Sir Gaerfyrddin.

Ond roedd pob safle yn amhriodol ac roedd hi’n bryd symud ymlaen ac ystyried safleoedd eraill, meddai.

Er mwyn cynnal Eisteddfod mae angen 140 acr o dir, 32 o’r rheini yn fflat, yn ogystal â lle ar gyfer 7,000 o geir a maes carfanau.

Bydd angen penderfynu ar union safle’r Eisteddfod erbyn 2012 fan bellaf.