Wrth i’r llifogydd gilio mewn rhannau o drydydd dinas mwyaf Awstralia heddiw datgelwyd strydoedd a chartrefi wedi eu gorchuddio â haen trwchus o lysnafedd madreddog.
Roedd rhai o drigolion Brisbane eisoes wedi dechrau llusgo dodrefn allan o’u tai wrth i’r gwaith glanhau ddechrau o ddifril yn dilyn un o’r trychinebau naturiol fwyaf yn hanes y wlad.
Mae 25 o bobol wedi marw a 55 ar goll yn dilyn wythnosau o lifogydd ar draws gogledd ddwyrain Awstralia.
“Mae yna lot o loes calon a galar wrth i bobol sylweddol am y tro cyntaf beth sydd wedi digwydd i’w cartrefi a’u strydoedd,” meddai arweinydd Queensland, Anna Bligh.
“Mae yna strydoedd ar ôl strydoedd o dai wedi eu difetha yn llwyr.”
Dywedodd y byddai’r gwaith o adfer y difrod yn debyg i “ddiwedd rhyfel”.
Tswnami
Cafodd 30,000 o dai a busnesau eu llethu gan ddyfroedd mwdlyd Afon Brisbane.
Boddodd un dyn ddoe ar ôl cael ei sugno i mewn i ddraen storm wrth geisio cyrraedd cartref ei dad oedd ynghanol y llifogydd.
Mae’r gwasanaethau brys yn disgwyl dod o hyd i ragor o gyrff ymhellach i fyny’r afon, mewn trefni a dinasoedd gafodd eu taro gan lifogydd ddydd Llun.
Mae’r rhan fwyaf o bobol sydd ar goll o Toowoomba, dinas i’r gorllewin o Brisbane yn Nyffryn Lockyer ddioddefodd ‘tswnami’ o ddŵr mwdlyd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu, Bob Atkinson, nad oedd yn disgwyl y byddwn nhw’n dod o hyd i bawb gafodd eu dal gan y llifogydd.
“Yn anffodus, mae’n rhaid cydnabod ei bod hi’n bosib na fyddan ni byth yn dod o hyd i bawb,” meddai.