Mae ymchwil newydd gyhoeddwyd heddiw yn awgrymu nad ydi bwydo o’r fron yn unig am chwe mis yn gwneud lles i fabanod.

Yn ôl canllawiau iechyd Gwledydd Prydain fe ddylai merched fwydo eu babanod o’r fron am chwe mis cyn eu dechrau ar fwydydd eraill.

Ond heddiw dywedodd arbenigwyr o Sefydliad Iechyd Plant Prifysgol Coleg Llundain y gallai babanod ddioddef o ddiffyg haearn os nad ydyn nhw’n cael maeth o ffynhonnell arall.

Yn 2001 cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd y dylai pob baban gael ei fwydo o’r fron yn unig am chwe mis.

“Penderfynodd y rhan fwyaf o wledydd gorllewinol y byd, gan gynnwys 65% o wledydd Ewrop a’r Unol Daleithiau, anwybyddu’r argymhelliad,” meddai awduron yr ymchwil.

“Serch hynny, yn 2003 cyhoeddodd y gweinidog iechyd y byddai Gwledydd Prydain yn cydymffurfio.”

Daeth ymchwil Sefydliad Iechyd y Byd i’r casgliad bod babanod oedd yn derbyn llaeth y fron yn unig yn dal llai o heintiau ac yn cael llai o broblemau tyfu.

Ond yn ôl yr adroddiad heddiw roedd 33 darn arall o waith ymchwil yn dangos nad oedd “unrhyw dystiolaeth o bwys” na ddylai rhieni gyflwyno bwydydd eraill i’w plant cyn chwe mis.

Roedd un darn o waith ymchwil hefyd yn awgrymu nad oedd bwydo o’r fron am chwe mis yn darparu’r holl faeth oedd babanod ei angen.

Yn ôl yr ymchwil a wnaed yn yr Unol Daleithiau yn 2007 roedd babanod oedd wedi eu bwydo o’r fron yn unig am chwe mis yn fwy tebygol o ddatblygu anemia na babanod oedd wedi dechrau ar fwydydd eraill ar ôl pedwar mis.

Wfftiodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd yr ymchwil gan ddweud bod “llaeth o’r fron yn darparu’r holl faeth y mae baban ei angen nes ei fod yn chwe mis oed”.

“Dylai mamau sydd eisiau dechrau ar fwydydd eraill cyn chwe mis drafod gydag arbenigwyr iechyd yn gyntaf.”