Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio y bydd rhagor o lifogydd yng Nghymru heddiw ar ôl i law trwm ddisgyn dros nos.

Daw’r problemau ar ôl dyddiau o law ar dir sydd eisoes yn soeglyd ar ôl yr eira trwm ym mis Rhagfyr. Mae disgwyl i’r tywydd wella rhywfaint dros y dyddiau nesaf.

Heddiw mae yna rybudd llifogydd ar yr Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder, Afon Elai ger Sain Ffagan, Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod, ac Afon Elai ger Llanbedr-ar-Elai.

Mae’r A474 yn Llansawel, Castell-nedd Port Talbot, a’r A487 ym Machynlleth, Powys, ar gau oherwydd y llifogydd.

Mae yna hefyd rybudd y gallai llifogydd effeithio ar yr Afonydd Thaw a Cadoxton, Afonydd Gwy a Mynwy yn Sir Fynwy, Dyffryn Dyfrdwy Uchaf o Lanuwchllyn i Langollen gan gynnwys Corwen, Efyrnwy, Tanat, Cain a Morda a’u llednentydd, yr Afon Elai, ac Afonydd dalgylch Tywi isaf islaw Llandeilo.

Mae llifogydd yn Lloegr hefyd wedi arwain at oedi a chanslo trenau o Abertawe i orsaf Paddington, Llundain.