Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon heddiw wedi hysbysebu swydd Cadeirydd Awdurdod S4C.
Daw’r hysbyseb yn dilyn ymadawiad John Walter Jones o swydd Cadeirydd y sianel ddechrau mis Rhagfyr. Mae Rheon Tomos, yr Is-gadeirydd, yn cyflawni’r rôl ar hyn o bryd.
Yn ôl yr hysbyseb a ryddhawyd brynhawn yma, mae’r Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon “yn ceisio unigolyn eithriadol i’w benodi/i’w phenodi yn Gadeirydd Awdurdod S4C”.
Y dyddiad cau yw’r 2il o Chwefror. Mae’r swydd yn talu £52,370 y flwyddyn am “hyd at dri diwrnod yr wythnos”.
Mae’r hysbyseb yn gofyn am ystod eang o sgiliau, gan gynnwys “yr hygrededd, awdurdod ac ymrwymiad i arwain yr Awdurdod i mewn i’r bartneriaeth newydd gyda’r BBC”.
“Gan fod yr Awdurdod yn cynnal y rhan helyw o’i waith yn y Gymraeg, mae gofyn i ymgeiswyr fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl,” meddai’r hysbyseb.
Prif weithredwr
Roedd y sianel hefyd wedi hysbysebu swydd Prif Weithredwr diwedd y flwyddyn ddiwethaf ac roedd y dyddiad cau ar 26 Tachwedd.
Ond yn dilyn ymddiswyddiad John Walter Jones cafodd Prif Weithredwr tros dro’r sianel, Arwel Ellis Owen, estyniad o chwe mis.
Cyhoeddodd Awdurdod S4C bryd hynny eu bod nhw wedi penderfynu gohirio penodi Prif Weithredwr parhaol i’r Sianel tan fod Cadeirydd newydd i’r Awdurdod yn cael ei benodi.