Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi enwi llanc 16 oed fu farw ar ôl cael ei daro gan drên ger Aberdâr yng Nghwm Cynon.

Daethpwyd o hyd i gorff Jack Elliot Stephens, sy’n byw yn lleol, ar ochor y rheilffordd ger Ynysboeth ddydd Llun.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn galwad tua 9.33am yn dweud bod y trên 8.41am o Gaerdydd i Aberdâr wedi taro rhywun.

Dywedodd teulu Jack Elliot Stephens ei fod yn fachgen “cariadus” a bod ei farwolaeth wedi “torri eu calonnau”.

“Roedd Jack yn fab, ŵyr, brawf a chyfaill cariadus ac ymroddgar i’r rheini oedd yn ddigon lwcus i’w nabod,” meddai’r datganiad a ryddhawyd gan yr heddlu.

“Fe fydd y teulu cyfan yn gweld ei eisiau a hoffwn ddiolch i’n ffrindiau a’n teulu am eu cariad, cefnogaeth a charedigrwydd.

“Mae’r trasiedi yma wedi torri ein calonnau.”