Mae athro a gafodd ei atal o’i waith ar ôl iddo ddod â sled i’r ysgol a chaniatáu i ddau ddisgybl ei ddefnyddio, wedi ei gael yn euog o ymddygiad amhroffesiynol gan banel disgyblu.
Dywedodd yr athro dylunio Richard Tremelling ei fod wedi mynd â’r sled gydag ef i Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn Abertawe ym mis Chwefror 2009 i’w ddangos i’r disgyblion.
Roedd dau fachgen yn nosbarth TGAU dylunio a thechnoleg Richard Tremelling wedi gofyn am gael defnyddio’r sled ar ddiwedd y wers, ac fe aeth yr athro a’r ddau ddisgybl allan i sledio ar dir yr ysgol.
Cafodd ei ddiswyddo am fethu a dilyn polisi iechyd a diogelwch yr ysgol, a ddoe fe benderfynodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ei fod yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Euog o bedwar cyhuddiad
Cafodd ei geryddu gan y pwyllgor a’i gael yn euog o bedwar cyhuddiad – gan gynnwys caniatáu i ddisgyblion ddefnyddio’r sled, ac anwybyddu rhybuddion gan gyd-weithwyr.
Cafodd ei esgusodi o bum cyhuddiad, gan gynnwys diffyg asesiad risg, a diffyg sylw i gyfarwyddiadau iechyd a diogelwch.
Er nad yw Richard Tremelling yn dysgu ar y funud, penderfynodd y pwyllgor y gallai barhau yn athro, ac y byddai ei gerydd yn dod i ben wedi dwy flynedd.