Bydd yr ymgyrch ‘Na’ yn erbyn grymoedd deddfu pellach i’r Cynulliad yn cael ei lansio yn swyddogol yr wythnos nesaf.
Fe fydd ymgyrch y mudiad Gwir Gymru yn cael ei lansio ddydd Mercher, 19 Ionawr, yng Nghlwb Rygbi Trecelyn, am 5.30pm.
“Rydym ni’n credu bod yr obsesiwn presennol â deddfu yn tynnu sylw oddi ar y gwir resymau dros ddatganoli yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran y grŵp.
“Ni fydd yr un o’r problemau hir dymor ag iechyd, addysg a’r economi yng Nghymru yn cael eu datrys drwy basio mwy o ddeddfau.
“Unig effaith y bleidlais ‘Ie’ fydd darparu mwy o rym canolog i ddwylo’r gwleidyddion ym Mae Caerdydd.
“Beth sydd ei angen ar Gymru yw gwell llywodraeth, nid rhagor o ddeddfau.”
Fe fydd aelodau ymgyrch Gwir Gymru hefyd yn ymgynnull ynghanol Tref Merthyr Tudful ar 11 Ionawr er mwyn rhannu taflenni, ac yn gwneud yr un fath yn Nhrecelyn ar y 12fed.
Er eu bod nhw’n canolbwyntio ar y de ddwyrain am y tro dywedodd y grŵp eu bod nhw’n gobeithio y bydd eu neges yn cyrraedd pob rhan o Gymru.