Mae gwleidyddion wedi codi pryderon am ddyfodol stamp Cymreig penodol, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y Post Brenhinol yn cael ei werthu i gwmni preifat.

Mae AS Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, wedi galw am osod camau i ofalu y bydd Cymru yn dal i gael ei chynrychioli ar ei stampiau.

Ar hyn o bryd, mae’r Post Brenhinol yn cyhoeddi stampiau i’w gwerthu yng Nghymru sydd yn dangos Draig Goch Cymru a symbolau Cymreig adnabyddus eraill ochr yn ochr â phen y Frenhines.

Mae Gweinidogion eisoes wedi rhoi sicrwydd y cedwir pen y Frenhines ar stampiau.

Mewn ymgais i sicrhau dyfodol i’r stampiau, mae Plaid Cymru a’r SNP wedi cyflwyno gwelliannau i’r Mesur Gwasanaethau Post, gaiff ei drydydd darlleniad yfory.

“Os caiff y Post Brenhinol ei breifateiddio, does dim gwarant y gall Cymru gadw ei brand unigryw ei hun o stampiau sydd yn dangos Draig Goch Cymru a symbolau Cymreig enwog eraill.,” meddai Elfyn Llwyd.

“Mae’n bwysicach nac erioed i hybu Cymru ym mhob dull posibl, ac y mae amlygu hunaniaeth cenedl ar stampiau yn rhywbeth sy’n cael ei wneud gan wledydd mawr a bach ledled y byd.

“Buasai’n drist iawn gweld logos corfforaethol yn cymryd lle arwyddluniau cenhedlaeth a hanesyddol.

“Rwy’n annog llywodraeth y DG i gefnogi ein gwelliant i sicrhau y cedwir delweddau Cymreig, Albanaidd, Gwyddelig a Seisnig penodol ar ein stampiau – yn union fel y gwnaethant gyda phen y Frenhines.”

‘Bygythiad’

Dywedodd Elfyn Llwyd fod ganddo hefyd bryderon ynglŷn ag effaith preifateiddio y gwasanaeth post ar fusnesau, ardaloedd gwledig a chymunedau Cymreig.

“Rwy’n bryderus iawn y bydd y newidiadau hyn yn arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau, yn enwedig i fusnesau bychain, cwsmeriaid domestig, grwpiau bregus a chymunedau,” meddai.

“Mae bygythiad gwirioneddol y bydd mwy o Swyddfeydd Post yn cau – gan dorri’r rhwydwaith yn fwy nac y gwnaeth y llywodraeth Lafur ddiwethaf, hyd yn oed, a gaeodd gannoedd o ganghennau ledled Cymru.

“Rhaid i lywodraeth y DG gynnal trafodaethau gyda llywodraeth Cymru i edrych ar effeithiau niweidiol y newidiadau hyn yma yng Nghymru.”