Mae disgwyl i lifogydd gyrraedd prifddinas talaith Queensland yn Awstralia yfory, gan orchuddio miloedd o dai a pheryglu bywydau dros ddwy fil o bobol.

Dyma’r llifogydd gwaethaf yn hanes y wlad, ac mae 30 o bobol eisoes wedi marw a 78 arall ar goll yn y dalaith.

Ddoe rhwygodd llifogydd drwy ddinas Toowoomba a Dyffryn Lockyer, gan ladd 10 o bobol – hanner y rheini yn blant. Dywedodd y Prif Weinidog, Julia Gillard, fod disgwyl i nifer y meirw gynyddu.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys wrth bapur newydd The Australian bod dros 30 o bobol wedi marw ddydd Llun.

Cafodd un plentyn bach ei rwygo o ddwylo ei fam gan y llifogydd byrlymus yng ngorllewin Brisbane ddoe.

Dywedodd Julia Gillard bod y llifogydd yn Brisbane yn debygol o fod yn waeth na llifogydd yn 1974 laddodd 14 o bobol a dinistrio sawl rhan o’r ddinas.

Brisbane yw’r drydedd ddinas fwyaf poblog yn Awstralia ac mae disgwyl i’r llifogydd effeithio ar tua 40,000 o gartrefi.