Dylai pobol iach gael eu gwahardd rhag prynu brechlynnau ffliw, meddai cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu.

Dywedodd Dr Clare Gerada bod pobol iach sy’n prynu brechlynnau ffliw o fferyllfeydd yn rhannol gyfrifol am y prinder yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Roedd hynny’n golygu bod rhai pobol fregus oedd angen brechlyn ddim yn gallu ei gael. Mae 50 person eisoes wedi marw a channoedd mewn gofal dwys ers mis Hydref.

Mae rhai meddygon teulu yng Nghymru a Lloegr wedi dweud nad oes â nhw unrhyw frechlynnau ar ôl . Roedd Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ymysg y rheini oedd â dim ar ôl.

Ddoe dechreuodd meddygon teulu yng Nghymru frechu pobol â brechlynnau ar gyfer y ffliw moch oedd dros ben ers y gaeaf diwethaf.

“Mae pobol sydd ddim yn y grwpiau bregus yn gallu prynu’r brechlyn ac mae hynny’n gadael llai i bawb arall,” meddai Clare Gerada wrth bapur newydd y Daily Telegraph.

“Os yw hynny’n debygol o ddigwydd eto mae’n rhaid i’r Llywodraeth roi stop arno.”

Galwodd am ymchwiliad i faint o bobol iach oedd wedi prynu’r brechlyn er mwyn penderfynu a ddylai’r llywodraeth lunio deddf er mwyn gwahardd yr arfer.

Mae sawl fferyllfa yn cynnig y brechlyn am tua £15, meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd bod “fferyllfeydd yn fusnesau preifat ac allen ni ddim eu hatal nhw rhag gwerthu’r brechlyn yn fasnachol”.