Mae’n rhaid i David Cameron ddechrau cosbi bancwyr a rhoi’r gorau i gosbi gweithwyr cyffredin, yn ôl arweinydd undeb gweithwyr mwyaf Prydain.

Dywedodd Len McCluskey, fydd yn cymryd awennau Unite ddiwedd y mis, mai dyletswydd undebau oedd amddiffyn swyddi ac amodau gwaith gweithwyr.

Fe ddylai Llywodraeth San Steffan fod yn buddsoddi mewn cymunedau yn hytrach na’u lladd nhw, meddai.

Ond cyhuddodd y cyfryngau o ganolbwyntio gormod ar streiciau, gan ddweud mai “dyna’r dewis olaf bob tro – dydw i erioed wedi cwrdd â gweithwyr sy’n hoffi mynd ar streic”.

Serch hynny doedd Len McCluskey ddim yn fodlon dweud na fyddai yna unrhyw streiciau ar 29 Ebrill, diwrnod priodas y Tywysog William a Kate Middleton, nac yn ystod y Gemau Olympaidd yn 2012.

Roedd yn annog y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r diffyg ariannol drwy dwf economaidd a diwygio’r system dreth, yn hytrach nag toriadau ariannol.

“Hapfasnachwyr a bancwyr barus” oedd yn gyfrifol am yr argyfwng economaidd, meddai.

“Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi dweud na ddylen ni gosbi’r bancwyr, ond y broblem ydi ei fod yn ddigon parod i gosbi gweithwyr a chymunedau,” meddai Len McCluskey.

“Dydw i ddim yn galw am chwalu’r Llywodraeth, ond mae gyda ni hawl i ymgyrchu yn erbyn eu penderfyniadau. Mae’r toriadau yn foesol anghywir ac yn beryglus.”