Mae disgwyl i fanciau dalu’r un bonwsau anferth a’r arfer eto eleni gan gynyddu’r pwysau ar Lywodraeth San Steffan.
Mynnodd Stryd Downing heddiw fod y mater y tu hwnt i’w rheolaeth nhw, gan awgrymu bod y banciau wedi anwybyddu eu cyngor nhw i gadw bonwsau yn isel.
Mae disgwyl i’r banciau sydd wedi eu gwladoli yn rhannol – RBS a Lloyds TBS – dalu’r bonwsau lleiaf yn dilyn rhybuddion cyhoeddus gan David Cameron a Nick Clegg.
“Fyddai’r banciau yma ddim yn bodoli heb haelioni’r trethdalwyr,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ar raglen Today Radio 4.
“Rydym ni wedi gofyn i gyfarwyddwyr y banciau rheini wneud swydd benodol – trwsio’r banciau yna fel eu bod nhw’n gweithio eto. Dyw’r gwaith heb ei orffen eto ac fe ddylai eu tâl nhw adlewyrchu hynny.”
I’r dyn cyffredin ar y stryd roedd bonwsau bancwyr “yn dod o fydysawd arall”, meddai.