Mae’r actor Michael Douglas wedi dweud bod y tiwmor yn ei wddf wedi mynd a’i fod yn gobeithio nad oes ganddo ganser y gwddf mwyach.

Dywedodd wrth NBC ei fod yn teimlo rhyddhad mawr ar ôl “chwe mis gwyllt”. Datgelodd fod ganddo ganser y gwddf ym mis Awst.

“Rydw i’n teimlo’n dda, rydw i’n teimlo rhyddhad. Mae’r tiwmor wedi mynd,” meddai gŵr yr actores o Gymru, Catherine Zeta-Jones.

“Serch hynny mae’n rhaid i fi gadw llygad ar y peth bob mis. Felly does dim gorfoledd llwyr.

“Ond mae’n debygol fy mod i wedi ennill y dydd.”

Dywedodd ei fod wedi bod yn “bwyta fel mochyn” ar ôl colli pwysau yn ystod ei driniaeth.

Roedd wedi colli 32 pwys ond ers i’r driniaeth ddod i ben roedd wedi rhoi 12 pwys yn ôl ymlaen.

Fe fydd Michael Douglas, sy’n 66 oed, yn dechrau ffilmio Liberace gan y cyfarwyddwr Steven Soderbergh ym mis Mai neu Fehefin.