Fe fydd y dyn sydd wedi ei gyhuddo o ladd chwe pherson a cheisio llofruddio Gabrielle Giffords yn Tuscon, Arizona, yn ymddangos o flaen llys heddiw.

Mae’r heddlu wedi chwilio cartref Jared Loughner, 22 oed, yn Tuscon a dod o hyd i amlen mewn sêff sy’n cynnwys y negeseuon: “Fe gynlluniais i o flaen llaw,” a “Fy llofruddiaeth” a’r enw “Giffords” yn ogystal â llofnod dyn.

Mae’n debyg bod Jared Loughner wedi prynu’r llawddryll a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiad ddydd Sadwrn mewn siop Sportsman’s Warehouse yn Tuscon, ym mis Tachwedd.

Mae yna dystiolaeth hefyd bod Jared Loughner wedi cysylltu gyda Gabrielle Giffords, 40, sy’n aelod o Gyngres yr Unol Daleithiau, yn y gorffennol.

Ymysg y dogfennau sydd yng ngofal y llys mae llythyr gan Gabrielle Giffords at Jared Loughner yn 2007 yn diolch iddo am fynd i ddigwyddiad ‘Congress on your Corner’.

Cafodd Gabrielle Giffords ei saethu yn ei phen wrth gynnal digwyddiad ‘Congress on your Corner’ cyntaf 2011 y tu allan i archfarchnad yn Tuscon.

Dywedodd pennaeth cyfathrebu Gabrielle Giffords bod Jared Loughner yn sefyll tua thair neu bedair troedfedd oddi wrthi pan ddechreuodd saethu.

“Roedd hi’n anrhefn lwyr, ac roedd pobol yn sgrechian a chrio,” meddai Mark Kimble.

Bydd Jared Loughner yn ymddangos o flaen Llys Sandra Day O’Connor yn Phoenix am 10am (5pm amser Cymru) heddiw.

Mae wedi ei gyhuddo o ladd chwech o bobol, gan gynnwys merch naw oed a anwyd ar 9/11, yn ogystal ag anafu 14 o bobol, gan gynnwys Gabrielle Giffords.