Teuluoedd gyda babanod fydd yn dioddef fwyaf yn sgil toriadau Llywodraeth San Steffan, yn ôl grŵp ymgyrchu.

Heddiw datgelodd y Sefydliad Teulu a Rhieni ymchwil sydd yn awgrymu mai teuluoedd sydd gyda phlant fydd yn dioddef yn sgil newidiadau i fudd-daliadau a chredydau treth.

Teuluoedd gyda babanod bach, teuluoedd sydd gyda rhieni mewn gwaith rhan amser, a theuluoedd mawr ar incymau bach fydd yn cael eu taro galetaf, medden nhw.

“Teuluoedd fydd yn gorfod goddef llawer iawn o’r poen yn sgil y newidiadau i fudd-daliadau a chredydau treth ym Mhrydain,” meddai Dr Katherine Rake, prif weithredwr y sefydliad.

“Mae hynny’n ogystal â dioddef yn sgil y cynnydd mewn Treth ar Werth, y cynnydd disgwyliedig mewn taliadau morgais, chwyddiant, a chost bwyd, tanwydd, dillad a biliau.”

Uchelgais

Yn ôl ffigyrau’r sefydliad fe fydd teuluoedd gyda babanod newydd yn dioddef yn sgil colli’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, y cymhorthdal Iechyd Mewn Beichiogrwydd, a diddymu credydau treth ychwanegol i fabanod.

Gyda’i gilydd mae hynny’n golygu y bydd teuluoedd 790,000 o fabanod sy’n cael eu geni bob blwyddyn yn colli cyfanswm o £775.3 miliwn.

Bydd rhewi budd-daliadau plant am dair blynedd yn golygu bod teulu gyda dau o blant yn colli £73 yn 2011-12, a £192.32 yn 2013-14, meddai’r sefydliad.

“Mae angen i’r glymblaid benderfynu beth yw eu gweledigaeth nhw er mwyn helpu teuluoedd,” meddai Katherine Rake.

“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod eisiau i Brydain fod ar flaen y gad yn Ewrop o ran cefnogi teuluoedd.

“Mae hynny’n uchelgais canmoladwy, ond mae’n rhaid i’r Llywodraeth esbonio sut y maen nhw am gyflawni hynny yn ystod cyfnod o dorri nôl.”