Mae’r heddlu wedi cael mwy o amser i holi dau ddyn arestiwyd mewn cysylltiad â llofruddiaeth David Williams ar ddydd Gwener, 7 Ionawr.

Ymddangosodd y ddau ddyn, 33 a 37 oed, o flaen Llys Ynadon Castell-nedd ddoe ac fe gafodd yr heddlu yr hawl i’w cadw yn y ddalfa i’w holi am 36 awr ychwanegol.

Mae trydydd dyn, 30 oed, hefyd wedi ai arestio mewn cysylltiad gyda’r llofruddiaeth. Ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Castell-nedd yn gynharach heddiw ac fe gafodd yr heddlu yr hawl i’w gadw yn y ddalfa am 36 awr ychwanegol hefyd.

Mae’r heddlu yn parhau i astudio ffilm camera cylch cyfyng ac yn ceisio cael gafael ar gyfeillion y dioddefwr. Maen nhw wedi dod i’r casgliad ei fod o wedi ei weld am y tro olaf tua 1.30am ddydd Gwener ger y YMCA ar Stryd St Helens.

Daethpwyd o hyd i’w gorff toc wedi 4am ger archfarchnad Iceland canol tref Abertawe.

Mae’r heddlu yn apelio am lygaid dystion allai gadarnhau symudiadau y dioddefwr o 5 Ionawr hyd at yr adeg y daethpwyd o hyd i’w gorff.

Maen nhw eisiau siarad gydag unrhyw un arall sydd â gwybodaeth allai fod o ddefnydd i’r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio on 01792 562732 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.