Roedd merch 9 oed saethwyd yn farw yn ystod y gyflafan yn Tuscon, Arizona ddydd Sadwrn wedi ei geni ar 9/11 a’i chynnwys mewn llyfr Faces of Hope: Babies Born on 9/11.
Fe fu farw Christina Taylor Green a chwe pherson arall wrth i Jared Lee Loughner, 22, saethu i gyfeiriad yr aelod o Gyngres yr Unol Daleithiau, Gabrielle Giffords.
Cafodd Gabrielle Giffords, 40 oed, ei saethu yn ei phen ac mae hi mewn cyflwr difrifol. Dywedodd doctor yn yr ysbyty bod y fwled wedi mynd drwy ei hymennydd ond eu bod nhw’n weddol hyderus y byddai hi’n byw.
Roedd y digwyddiad y tu allan i archfarchnad Safeway i fod yn gyfle i Gabrielle Giffords gwrdd gyda’i hetholwyr.
Yn ôl sianel newyddion NBC y wlad roedd gan Christina Taylor Green ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac wedi ei gwahodd i’r cyfarfod gan gymydog.
“Roedd hi’n ferch arbennig a da iawn,” meddai ei hewythr, Greg Segalini, wrth bapur newydd The Arizona Republic.