Mae Archesgob Cymru wedi derbyn her newydd –mynd ar drywydd dyn oedd eisiau ei jobyn e.
Bydd Dr Barry Morgan yn cyflwyno cyfres deledu tair pennod fydd yn edrych ar fywyd ac oes y teithiwr a’r clerigwr o’r 12fed ganrif, Gerallt Gymro.
Yn Ôl Traed Gerallt Gymro, a fydd yn dechrau ar S4C nos Sul 9 Ionawr, bydd Archesgob Cymru yn mynd ar drywydd dyn oedd eisiau ei jobyn e.
Ac fel casgliadau Gerallt am Gymru dyw casgliad Barry Morgan am y clerigwr ddim yn dda i gyd. Mae’n disgrifio Gerallt Gymro fel “cymeriad annioddefol”.
Mae’r gyfres yn darganfod sut y gwnaeth Gerallt geisio – ond methu – yn ei ymdrech i fod yn Archesgob cyntaf Cymru ond a lwyddodd i ddod yn un o deithwyr enwoca’ hanes ein gwlad.
Un o uchafbwyntiau’r gyfres yw cyfweliad rhwng Dr Barry Morgan a’r Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint, pan fyddan nhw’n asesu llwyddiannau a methiannau’r dyn uchelgeisiol, talentog a oedd yn Archddiacon Brycheiniog.
‘Doctor sbin’
Mae Barry Morgan yn dilyn Gerallt o orllewin Cymru i’w gyfnod fel Archddiacon yn Llanddew, ger Aberhonddu ac yna i Rufain lle y ceisiodd gael ei ethol yn Archesgob Tyddewi a thrio sefydlu’r ddinas gadeiriol honno’n gartref ar gyfer swydd newydd, Archesgob Cymru.
Yn un a raddiodd mewn Hanes, mae’r Dr Morgan wedi ymddiddori yn y dyn a geisiodd sefydlu Archesgob Cymru saith canrif cyn i’r swydd gael ei chreu yn 1920.
“Mae Gerallt yn gymeriad hynod gymhleth,” meddai’r Dr Morgan. “Roedd e’n ddoctor sbin ar gyfer ei hunan ymhell cyn i’r term gael ei fathu, byth a hefyd yn portreadu ei hun yn ffafriol ac yn bwrw sen ar ei elynion.
“Mewn llawer o ffyrdd, roedd yn gymeriad annioddefol. Serch hynny, roedd yn un o eglwyswyr mawr ei oes a gynhyrchodd drysorau llenyddol sy’n bwrw golwg unigryw ar fywyd y Canol Oesoedd.”
Wyth can mlynedd maith yn ôl…
Ganed Gerallt yng Nghastell Maenorbŷr ger Dinbych-y-pysgod ym 1146, mewn cyfnod pan oedd y Normaniaid yn ceisio concro Cymru. Roedd yn dri chwarter Normanaidd ac yn chwarter Cymro ac wedi ei rwygo rhwng y ddau ddiwylliant gydol ei fywyd.
Wrth gefnogi achos Tyddewi yn hytrach na Chaergaint, roedd wedi herio nid yn unig y sefydliad eglwysig ond brenhiniaeth Lloegr.
Ond er ei fod yn rebel yn erbyn y sefydliad ar un wedd, roedd Gerallt hefyd yn gallu bod yn biler y sefydliad. Yn wir, fe ysgrifennodd ei glasuron Lladin, ‘Disgrifiad o Gymru’ a ‘Hanes y daith drwy Gymru’ tra ar daith ar ran Brenin Lloegr i recriwtio pobl i’r Drydedd Groesgad.
Mae’r gwaith yn dangos bod gan Gerallt lygaid craff am arferion cymdeithas y Canol Oesoedd, ac iddo hyd yn oed nodi bod pobl Cymru yn glanhau eu dannedd yn well na’r un hil arall gan eu bod yn defnyddio’r brigau’r goeden gollen fel rhyw fath o ‘fflos dannedd’!
Roedd Gerallt yn deithiwr brwd ac egnïol, nid yn unig yng Nghymru ond ledled Ewrop hefyd. Mewn cyfnod pan oedd y rhan fwyaf o bererinion yn bodloni ar ymweld â Rhufain unwaith yn eu bywydau, fe ymwelodd Gerallt â Rhufain bedair gwaith mewn pum mlynedd. Mae’r gyfres hon yn ail greu siwrnai’r bererindod a wnaeth Gerallt o ynysoedd Prydain i Rufain.
Mae hanes ei deithiau yn aml yn debycach i’r hyn y gallwch ddarllen o fewn cloriau nofel James Bond nag ysgrif Lladin o’r Oesoedd Canol. Bu’n rhaid iddo adael Prydain yn gudd mewn cwch gan fod Archesgob Caergaint wedi ei wahardd rhag gadael y wlad, fe gysgodd dan gwch trwy’r nos i osgoi ysbiwyr yr Archesgob ochr arall y culfor yn Ffrainc a bu’n rhad iddo ddianc o Rufain am fod ganddo gymaint o ddyledion.