Fe fydd meddygon teulu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn derbyn rhagor o frechlynnau ffliw moch o ddydd Llun ymlaen.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd mai ffliw moch yw’r ffliw mwyaf cyffredin yn yr ardal ac fe ddylai’r brechlyn fynd i’r afael â’r broblem.

Penderfynwyd rhyddhau rhagor o frechlynnau ffliw moch oherwydd prinder brechlynnau sy’n brwydro’r ffliwiau A a B yn ogystal â ffliw moch.

Cafodd miliynau o frechlynnau ffliw moch eu harchebu yn 2009 rhag ofn bod y ffliw yn troi’n bandemig.

Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol at benaethiaid iechyd yr wythnos diwethaf yn galw am ddefnyddio’r brechlynnau ffliw moch dros ben er mwyn brechu cleifion.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro y bydd meddygol teulu yn defnyddio’r brechlyn ffliw moch pan nad oes brechlyn ffliw tymhorol ar ôl.